1 Cronicl 25:15-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Yr wythfed ar Jesaia, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.

16. Y nawfed ar Mataneia, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.

17. Y degfed ar Simei, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.

18. Yr unfed ar ddeg ar Asareel, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.

19. Y deuddegfed ar Hasabeia, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.

20. Y trydydd ar ddeg ar Subael, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.

21. Y pedwerydd ar ddeg ar Matitheia, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.

22. Y pymthegfed ar Jerimoth, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.

23. Yr unfed ar bymtheg ar Hananeia, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.

24. Yr ail ar bymtheg ar Josbecasa, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.

1 Cronicl 25