1. Dewisodd Dafydd a'r swyddogion feibion Asaff, Heman a Jeduthun ar gyfer y gwaith o broffwydo â thelynau, nablau a symbalau. Dyma restr o'r dynion a etholwyd ar gyfer y gwaith.
2. O feibion Asaff: Saccur, Joseff, Nethaneia ac Asarela. Yr oedd meibion Asaff o dan gyfarwyddyd Asaff, a oedd yn proffwydo mewn ufudd-dod i'r brenin.
3. O Jeduthun, meibion Jeduthun: Gedaleia, Seri, Jesaia, Simei, Hasabeia a Matitheia, chwech, o dan gyfarwyddyd eu tad Jeduthun, a oedd yn proffwydo ar y delyn er mawl a chlod i'r ARGLWYDD.
4. O Heman, meibion Heman: Bucceia, Mataneia, Ussiel, Sebuel, Jerimoth, Hananeia, Hanani, Eliatha, Gidalti, Romamti-eser, Josbecasa, Malothi, Hothir a Mahasioth.
5. Yr oedd y rhain i gyd yn feibion Heman, gweledydd y brenin, gan fod Duw wedi addo ei ddyrchafu, ac wedi rhoi iddo bedwar ar ddeg o feibion a thair merch.