1 Cronicl 24:18-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. y trydydd ar hugain ar Delaia, y pedwerydd ar hugain ar Maaseia.

19. Swyddogaeth y rhain yn y gwasanaeth oedd dod i mewn i dŷ Dduw yn ôl y drefn a osodwyd gan Aaron eu tad, fel y gorchmynnwyd iddo gan ARGLWYDD Dduw Israel.

20. Dyma weddill meibion Lefi. O feibion Amram: Subael; o feibion Subael: Jehdeia;

21. o Rehabia a'i feibion: Issia yn gyntaf;

22. o'r Ishariaid: Selomoth; o feibion Selomoth: Jahath.

23. Meibion Hebron: Jereia yn gyntaf, Amareia yn ail, Jahasiel yn drydydd a Jecameam yn bedwerydd.

24. O feibion Ussiel: Micha; o feibion Micha: Samir.

25. Brawd Micha oedd Issia. O feibion Issia: Sechareia.

26. Meibion Merari: Mahli a Musi. Meibion Jaasei: Beno.

27. Meibion Merari trwy Jaaseia: Beno, Soham, Saccur ac Ibri.

1 Cronicl 24