1 Cronicl 23:29-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

29. Yr oeddent yn gyfrifol am y bara gosod, y blawd ar gyfer y bwydoffrwm, y teisennau croyw, y bara radell, y toes wedi ei dylino, a'r holl bwysau a mesurau.

30. Yr oeddent i fod yn bresennol fore a hwyr i roi mawl a chlod i'r ARGLWYDD.

31. Bob tro yr offrymid poethoffrymau i'r ARGLWYDD ar Saboth, newydd-loer neu ŵyl, rhaid oedd i'r nifer dyladwy ohonynt fod ger ei fron ef.

32. Yr oeddent i oruchwylio pabell y cyfamod a'r cysegr, a gweini ar eu brodyr, meibion Aaron, wrth iddynt wasanaethu yn nhŷ'r ARGLWYDD.

1 Cronicl 23