24. Dyma feibion Lefi yn ôl eu teuluoedd, a dyma'r pennau-teuluoedd yn ôl eu swyddi ac wedi eu rhifo fesul un wrth eu henwau; yr oedd pob un ugain oed a throsodd i ofalu am waith tŷ'r ARGLWYDD,
25. oherwydd i Ddafydd ddweud, “Am fod yr ARGLWYDD, Duw Israel, wedi rhoi diogelwch i'w bobl, ac wedi dod i breswylio yn Jerwsalem am byth,
26. nid oes rhaid mwyach i'r Lefiaid gario'r tabernacl na'r holl offer sydd ar ei gyfer.”
27. Yn ôl geiriau olaf Dafydd yr oedd y Lefiaid ugain oed a throsodd i'w rhifo.
28. Eu dyletswydd oedd cynorthwyo meibion Aaron yng ngwasanaeth tŷ'r ARGLWYDD, gofalu am y cynteddau a'r ystafelloedd, puro popeth sanctaidd ac ymgymryd â gwasanaeth tŷ Dduw.
29. Yr oeddent yn gyfrifol am y bara gosod, y blawd ar gyfer y bwydoffrwm, y teisennau croyw, y bara radell, y toes wedi ei dylino, a'r holl bwysau a mesurau.
30. Yr oeddent i fod yn bresennol fore a hwyr i roi mawl a chlod i'r ARGLWYDD.
31. Bob tro yr offrymid poethoffrymau i'r ARGLWYDD ar Saboth, newydd-loer neu ŵyl, rhaid oedd i'r nifer dyladwy ohonynt fod ger ei fron ef.