20. Meibion Ussiel: Micha yn gyntaf a Jeseia yn ail.
21. Meibion Merari: Mahli a Musi. Meibion Mahli: Eleasar a Cis.
22. Bu farw Eleasar; nid oedd ganddo feibion, dim ond merched, a phriododd eu cefndyr, meibion Cis, â hwy.
23. Meibion Musi: Mahli, Eder a Jerimoth, tri.
24. Dyma feibion Lefi yn ôl eu teuluoedd, a dyma'r pennau-teuluoedd yn ôl eu swyddi ac wedi eu rhifo fesul un wrth eu henwau; yr oedd pob un ugain oed a throsodd i ofalu am waith tŷ'r ARGLWYDD,
25. oherwydd i Ddafydd ddweud, “Am fod yr ARGLWYDD, Duw Israel, wedi rhoi diogelwch i'w bobl, ac wedi dod i breswylio yn Jerwsalem am byth,
26. nid oes rhaid mwyach i'r Lefiaid gario'r tabernacl na'r holl offer sydd ar ei gyfer.”
27. Yn ôl geiriau olaf Dafydd yr oedd y Lefiaid ugain oed a throsodd i'w rhifo.