1 Cronicl 23:11-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Jahath yn gyntaf a Sisa yn ail; ond nid oedd gan Jeus a Bereia lawer o feibion, felly cyfrifwyd hwy fel un teulu.

12. Meibion Cohath: Amram, Ishar, Hebron ac Ussiel, pedwar.

13. Meibion Amram: Aaron a Moses. Cafodd Aaron a'i feibion eu neilltuo am byth i sancteiddio'r cysegr sancteiddiaf ac i arogldarthu gerbron yr ARGLWYDD, i'w wasanaethu ac i fendithio yn ei enw dros byth.

1 Cronicl 23