1 Cronicl 23:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Wedi i Ddafydd fynd yn hen a chyrraedd oedran teg, fe wnaeth Solomon ei fab yn frenin ar Israel.

2. Yna fe gasglodd ynghyd holl arweinwyr Israel, a'r offeiriaid a'r Lefiaid.

3. Rhifwyd y Lefiaid a oedd yn ddeg ar hugain oed a throsodd, a'r cyfanrif oedd deunaw mil ar hugain.

4. O'r rhain yr oedd pedair mil ar hugain i arolygu'r gwaith yn nhŷ'r ARGLWYDD, chwe mil i fod yn swyddogion ac yn farnwyr,

5. pedair mil yn borthorion, a phedair mil i foli'r ARGLWYDD â'r offerynnau mawl a wnaeth Dafydd.

6. Rhannodd Dafydd hwy yn ddosbarthiadau yn ôl meibion Lefi, sef Gerson, Cohath a Merari.

1 Cronicl 23