1 Cronicl 22:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dywedodd Dafydd, “Hwn fydd tŷ'r ARGLWYDD Dduw, ac allor y poethoffrwm i Israel.”

2. Rhoddodd Dafydd orchymyn i gasglu'r dieithriaid oedd yng ngwlad Israel, a phenododd seiri maen i baratoi cerrig i adeiladu tŷ Dduw.

3. Fe baratôdd hefyd lawer o haearn i wneud hoelion ar gyfer drysau'r pyrth a'r cysylltiadau, a chymaint o bres fel nad oedd modd ei bwyso;

4. darparodd hefyd goed cedrwydd di-rif, oherwydd bod y Sidoniaid a'r Tyriaid wedi dod â llawer ohonynt iddo.

1 Cronicl 22