1 Cronicl 21:16-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Yna edrychodd Dafydd a gweld angel yr ARGLWYDD yn sefyll rhwng daear a nefoedd, â'i gleddyf noeth yn ei law wedi ei estyn dros Jerwsalem; ac fe syrthiodd Dafydd a'r henuriaid, a oedd wedi eu gwisgo mewn sachliain, ar eu hwynebau.

17. Dywedodd Dafydd wrth Dduw, “Onid myfi a orchmynnodd rifo'r bobl? Onid myfi sydd wedi pechu a gwneud drwg? Am y defaid hyn, beth a wnaethant hwy? O ARGLWYDD fy Nuw, bydded dy law yn f'erbyn i a'm teulu, ond paid ag anfon pla ar dy bobl.”

18. Yna dywedodd angel yr ARGLWYDD wrth Gad am orchymyn i Ddafydd fynd i fyny a chodi allor i'r ARGLWYDD ar lawr dyrnu Ornan y Jebusiad.

19. Felly fe aeth Dafydd, ar air Gad, fel y gorchmynnodd yn enw'r ARGLWYDD.

20. Yr oedd Ornan yn dyrnu gwenith; trodd a gweld yr angel, ac aeth ei bedwar mab oedd gydag ef i ymguddio.

21. Daeth Dafydd at Ornan, a phan welodd Ornan ef aeth allan o'r llawr dyrnu ac ymgrymu iddo hyd lawr.

1 Cronicl 21