1 Cronicl 21:12-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Dewis naill ai tair blynedd o newyn, neu dri mis o ffoi o flaen dy wrthwynebwyr a chleddyf dy elynion yn dy oddiweddyd, neu dridiau o haint yn y wlad, sef cleddyf yr ARGLWYDD, ac angel yr ARGLWYDD yn dinistrio trwy holl derfynau Israel. Ystyria pa ateb a roddaf i'r un a'm hanfonodd.”

13. Dywedodd Dafydd wrth Gad, “Y mae'n gyfyng iawn arnaf, ond bydded imi syrthio i law'r ARGLWYDD, am fod ei drugareddau'n aml, yn hytrach nag imi syrthio i law dynion.”

14. Felly anfonodd yr ARGLWYDD haint ar Israel, a bu farw deng mil a thrigain o'r bobl.

1 Cronicl 21