1 Cronicl 2:42-55 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

42. Meibion Caleb brawd Jerahmeel: Mesa, ei gyntafanedig, tad Siff, a'i fab Maresa, tad Hebron.

43. Meibion Hebron: Cora, Tappua, Recem, Sema.

44. Sema oedd tad Raham, tad Jorcoam; a Recem oedd tad Sammai.

45. Mab Sammai oedd Maon, a Maon oedd tad Beth-sur.

46. Effa, gordderchwraig Caleb, oedd mam Haran, Mosa, Gases; a Haran oedd tad Gases.

47. Meibion Jahdai: Regem, Jotham, Gesan, Pelet, Effa, Saaff.

48. Gordderchwraig Caleb, sef Maacha, oedd mam Seber a Tirhana.

49. Hi hefyd oedd mam Saaff tad Madmanna, Sefa tad Machbena a Gibea; merch Caleb oedd Achsa.

50. Y rhain oedd meibion Caleb. Meibion Hur, cyntafanedig Effrata: Sobal tad Ciriath-jearim,

51. Salma tad Bethlehem, Hareth tad Beth-gader.

52. Meibion Sobal tad Ciriath-jearim: Haroe, hanner y Manahethiaid,

53. sef tylwythau Ciriath-jearim, sef yr Ithriaid, y Puhiaid, y Sumathiaid, y Misraiaid; eu disgynyddion hwy oedd y Sorathiaid a'r Estauliaid.

54. Meibion Salma: Bethlehem, y Netoffathiaid, Ataroth tŷ Joab, hanner y Manahethiaid, y Soriaid,

55. tylwythau'r Soffriaid oedd yn Jabes, y Tirathiaid, y Simeathiaid, y Suchathiaid. Y rhain oedd y Ceniaid, disgynyddion Hemath tad tylwyth Rechab.

1 Cronicl 2