1 Cronicl 2:38-53 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

38. Obed oedd tad Jehu, Jehu oedd tad Asareia,

39. Asareia oedd tad Heles, Heles oedd tad Eleasa,

40. Eleasa oedd tad Sisamai, Sisamai oedd tad Salum,

41. Salum oedd tad Jecameia, Jecameia oedd tad Elisama.

42. Meibion Caleb brawd Jerahmeel: Mesa, ei gyntafanedig, tad Siff, a'i fab Maresa, tad Hebron.

43. Meibion Hebron: Cora, Tappua, Recem, Sema.

44. Sema oedd tad Raham, tad Jorcoam; a Recem oedd tad Sammai.

45. Mab Sammai oedd Maon, a Maon oedd tad Beth-sur.

46. Effa, gordderchwraig Caleb, oedd mam Haran, Mosa, Gases; a Haran oedd tad Gases.

47. Meibion Jahdai: Regem, Jotham, Gesan, Pelet, Effa, Saaff.

48. Gordderchwraig Caleb, sef Maacha, oedd mam Seber a Tirhana.

49. Hi hefyd oedd mam Saaff tad Madmanna, Sefa tad Machbena a Gibea; merch Caleb oedd Achsa.

50. Y rhain oedd meibion Caleb. Meibion Hur, cyntafanedig Effrata: Sobal tad Ciriath-jearim,

51. Salma tad Bethlehem, Hareth tad Beth-gader.

52. Meibion Sobal tad Ciriath-jearim: Haroe, hanner y Manahethiaid,

53. sef tylwythau Ciriath-jearim, sef yr Ithriaid, y Puhiaid, y Sumathiaid, y Misraiaid; eu disgynyddion hwy oedd y Sorathiaid a'r Estauliaid.

1 Cronicl 2