26. Yr oedd gan Jerahmeel wraig arall o'r enw Atara; hi oedd mam Onam.
27. Meibion Ram, cyntafanedig Jerahmeel: Maas, Jamin, Ecer.
28. Meibion Onam: Sammai a Jada. Meibion Sammai: Nadab ac Abisur.
29. Enw gwraig Abisur oedd Abihail; hi oedd mam Aban a Molid.
30. Meibion Nadab: Seled ac Appaim; a bu farw Seled yn ddi-blant.
31. Mab Appaim: Isi. Mab Isi: Sesan. Mab Sesan: Alai.
32. Meibion Jada, brawd Sammai: Jether a Jonathan; a bu farw Jether yn ddi-blant.
33. Meibion Jonathan: Peleth a Sasa. Y rhain oedd meibion Jerahmeel.
34. Nid oedd gan Sesan feibion, dim ond merched. Yr oedd ganddo was o Eifftiad o'r enw Jarha,