1 Cronicl 2:2-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Dan, Joseff, a Benjamin, Nafftali, Gad ac Aser.

3. Meibion Jwda: Er, Onan a Sela. Mam y tri oedd Bathsua y Ganaanëes. Ond pechodd Er, cyntafanedig Jwda, yn erbyn yr ARGLWYDD, a lladdodd yr ARGLWYDD ef.

4. Yr oedd Tamar, merch-yng-nghyfraith Jwda, yn fam i'w feibion Phares a Sera; pump o feibion i gyd oedd gan Jwda.

5. Meibion Phares: Hesron a Hamul.

6. Meibion Sera: Simri, Ethan, Heman, Calcol, a Dara, pump i gyd.

7. Mab Carmi: Achar, yr un a flinodd Israel trwy dwyllo gyda'r diofryd.

8. Mab Ethan: Asareia.

1 Cronicl 2