2. Dan, Joseff, a Benjamin, Nafftali, Gad ac Aser.
3. Meibion Jwda: Er, Onan a Sela. Mam y tri oedd Bathsua y Ganaanëes. Ond pechodd Er, cyntafanedig Jwda, yn erbyn yr ARGLWYDD, a lladdodd yr ARGLWYDD ef.
4. Yr oedd Tamar, merch-yng-nghyfraith Jwda, yn fam i'w feibion Phares a Sera; pump o feibion i gyd oedd gan Jwda.
5. Meibion Phares: Hesron a Hamul.
6. Meibion Sera: Simri, Ethan, Heman, Calcol, a Dara, pump i gyd.