1 Cronicl 2:15-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Osem yn chweched, Dafydd yn seithfed,

16. a'u chwiorydd hwy, Serfia ac Abigail. Meibion Serfia: Abisai, Joab, Asahel, tri.

17. Abigail oedd mam Amasa, a'i dad ef oedd Jether yr Ismaeliad.

18. Yr oedd Asuba, gwraig Caleb fab Hesron, yn fam i Jerioth, ac i Jeser, Sohab ac Adron.

19. Pan fu farw Asuba cymerodd Caleb Effrata yn wraig iddo; hi oedd mam Hur.

20. Hur oedd tad Uri, ac Uri oedd tad Besalel.

21. Wedi hynny aeth Hesron i mewn at ferch Machir tad Gilead, a'i phriodi ac yntau'n drigain oed; hi oedd mam Segub.

22. Segub oedd tad Jair, a oedd yn berchen ar dair ar hugain o ddinasoedd yng ngwlad Gilead.

1 Cronicl 2