1 Cronicl 2:14-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Nethaneel yn bedwerydd, Radai yn bumed,

15. Osem yn chweched, Dafydd yn seithfed,

16. a'u chwiorydd hwy, Serfia ac Abigail. Meibion Serfia: Abisai, Joab, Asahel, tri.

17. Abigail oedd mam Amasa, a'i dad ef oedd Jether yr Ismaeliad.

18. Yr oedd Asuba, gwraig Caleb fab Hesron, yn fam i Jerioth, ac i Jeser, Sohab ac Adron.

19. Pan fu farw Asuba cymerodd Caleb Effrata yn wraig iddo; hi oedd mam Hur.

20. Hur oedd tad Uri, ac Uri oedd tad Besalel.

21. Wedi hynny aeth Hesron i mewn at ferch Machir tad Gilead, a'i phriodi ac yntau'n drigain oed; hi oedd mam Segub.

1 Cronicl 2