1 Cronicl 2:1-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dyma feibion Israel: Reuben, Simeon, Lefi, Jwda, Issachar, Sabulon,

2. Dan, Joseff, a Benjamin, Nafftali, Gad ac Aser.

3. Meibion Jwda: Er, Onan a Sela. Mam y tri oedd Bathsua y Ganaanëes. Ond pechodd Er, cyntafanedig Jwda, yn erbyn yr ARGLWYDD, a lladdodd yr ARGLWYDD ef.

4. Yr oedd Tamar, merch-yng-nghyfraith Jwda, yn fam i'w feibion Phares a Sera; pump o feibion i gyd oedd gan Jwda.

5. Meibion Phares: Hesron a Hamul.

6. Meibion Sera: Simri, Ethan, Heman, Calcol, a Dara, pump i gyd.

7. Mab Carmi: Achar, yr un a flinodd Israel trwy dwyllo gyda'r diofryd.

8. Mab Ethan: Asareia.

9. Meibion Hesron: ganwyd iddo Jerahmeel, Ram, Celubai.

10. Ram oedd tad Amminadab; Amminadab oedd tad Nahson, pennaeth tylwyth Jwda;

11. Nahson oedd tad Salma; Salma oedd tad Boas;

12. Boas oedd tad Obed; ac Obed oedd tad Jesse;

13. Jesse oedd tad Eliab, ei gyntafanedig, Abinadab yn ail, Simma yn drydydd,

14. Nethaneel yn bedwerydd, Radai yn bumed,

1 Cronicl 2