6. Pan welsant eu bod yn ffiaidd gan Ddafydd, anfonodd Hanun a'r Ammoniaid fil o dalentau arian i gyflogi cerbydau a marchogion o Mesopotamia, Syria-maacha a Soba.
7. Cyflogasant ddeuddeng mil ar hugain o gerbydau, yn ogystal â brenin Maacha a'i fyddin, a daethant i wersyllu o flaen Medeba. Ymgasglodd yr Ammoniaid hefyd o'u dinasoedd a dod allan i ryfel.
8. Pan glywodd Dafydd, anfonodd Joab allan gyda'r holl fyddin a'r milwyr.
9. Daeth yr Ammoniaid allan a ffurfio rhengoedd ar gyfer y frwydr ger porth y ddinas, ac yr oedd y brenhinoedd, a oedd wedi dod, ar eu pennau eu hunain mewn tir agored.
10. Pan welodd Joab y byddai'n gorfod ymladd o'r tu blaen ac o'r tu ôl, dewisodd wŷr dethol o fyddin Israel, a'u trefnu mewn rhengoedd i wynebu'r Syriaid.
11. Gosododd weddill y fyddin dan awdurdod ei frawd Abisai, a safasant yn rhengoedd i wynebu'r Ammoniaid.
12. A dywedodd, “Os bydd y Syriaid yn drech na mi, tyrd di i'm cynorthwyo; ac os bydd yr Ammoniaid yn drech na thi, dof finnau i'th gynorthwyo di.
13. Bydd yn wrol! Byddwn ddewr dros ein pobl a dinasoedd ein Duw; a bydded i'r ARGLWYDD wneud yr hyn sy'n dda yn ei olwg.”