1 Cronicl 17:8-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Yr oeddwn gyda thi ple bynnag yr aethost, a dinistriais dy holl elynion o'th flaen, a gwneud iti enw mawr fel eiddo'r mawrion a fu ar y ddaear.

9. Ac yr wyf am baratoi lle i'm pobl Israel, a'u plannu, iddynt gael ymsefydlu yno heb eu tarfu rhagor; ac ni fydd treiswyr yn eu cystuddio eto, fel yn yr adeg gynt,

10. pan benodais farnwyr dros fy mhobl Israel; darostyngaf dy holl elynion. Yr wyf yn dy hysbysu mai yr ARGLWYDD fydd yn adeiladu tŷ i ti.

11. Pan ddaw dy ddyddiau i ben, ac yn amser iti farw, codaf blentyn iti ar dy ôl, un yn hanu o'th feibion, a gwnaf ei deyrnas yn gadarn.

1 Cronicl 17