4. “Dos, dywed wrth fy ngwas Dafydd, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Ni chei di adeiladu i mi dŷ i breswylio ynddo.
5. Yn wir, nid wyf wedi preswylio mewn tŷ o'r diwrnod y dygais Israel allan o'r Aifft hyd heddiw; yr oeddwn yn mynd o babell i babell ac o un tabernacl i'r llall.
6. Ple bynnag y bûm yn teithio gyda holl Israel, a fu imi yngan gair wrth unrhyw un o farnwyr Israel, a benodais i fugeilio fy mhobl, a gofyn, “Pam na fyddech wedi adeiladu tŷ o gedrwydd i mi?” ’
7. Felly dywed wrth fy ngwas Dafydd, ‘Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: Myfi a'th gymerodd di o'r maes, o ganlyn defaid, i fod yn arweinydd i'm pobl Israel.
8. Yr oeddwn gyda thi ple bynnag yr aethost, a dinistriais dy holl elynion o'th flaen, a gwneud iti enw mawr fel eiddo'r mawrion a fu ar y ddaear.
9. Ac yr wyf am baratoi lle i'm pobl Israel, a'u plannu, iddynt gael ymsefydlu yno heb eu tarfu rhagor; ac ni fydd treiswyr yn eu cystuddio eto, fel yn yr adeg gynt,
10. pan benodais farnwyr dros fy mhobl Israel; darostyngaf dy holl elynion. Yr wyf yn dy hysbysu mai yr ARGLWYDD fydd yn adeiladu tŷ i ti.
11. Pan ddaw dy ddyddiau i ben, ac yn amser iti farw, codaf blentyn iti ar dy ôl, un yn hanu o'th feibion, a gwnaf ei deyrnas yn gadarn.
12. Ef fydd yn adeiladu tŷ i mi, a gwnaf finnau ei orsedd yn gadarn am byth.
13. Byddaf fi'n dad iddo ef, a bydd yntau'n fab i mi, ac ni chymeraf fy nhrugaredd oddi wrtho, fel y cymerais hi oddi wrth yr un oedd o'th flaen di.
14. Gosodaf ef yn fy nhŷ ac yn fy nheyrnas am byth; erys ei orsedd yn gadarn hyd byth.’ ”
15. Dywedodd Nathan wrth Ddafydd y cwbl a ddywedwyd ac a ddangoswyd iddo ef.
16. Yna fe aeth y Brenin Dafydd i mewn ac eistedd o flaen yr ARGLWYDD a dweud, “Pwy wyf fi, O Arglwydd DDUW, a phwy yw fy nheulu, dy fod wedi dod â mi hyd yma?
17. Ac fel pe byddai hyn eto'n beth bychan yn d'olwg, O Dduw, yr wyt hefyd wedi llefaru ynglŷn â theulu dy was ar gyfer y dyfodol pell, a'm hystyried i'n llinach o ddynion dyrchafedig, O Arglwydd DDUW.
18. Beth rhagor y medraf fi, Dafydd, ei ddweud wrthyt am anrhydeddu dy was, a thithau yn ei adnabod?