1 Cronicl 17:22-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

22. Gwnaethost dy bobl Israel i fod yn bobl i ti hyd byth; a daethost tithau, O ARGLWYDD, yn Dduw iddynt hwy.

23. Yn awr, O ARGLWYDD, bydded i'r addewid a wnaethost ynglŷn â'th was a'i deulu sefyll am byth, a gwna fel y dywedaist.

24. Bydded iddi sefyll fel y mawrheir dy enw hyd byth, ac y dywedir, ‘ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel, sydd Dduw ar Israel’; a bydd tŷ dy was Dafydd yn sicr ger dy fron.

25. Am i ti, O fy Nuw, ddatgelu i'th was y byddit yn adeiladu tŷ iddo, fe fentrodd dy was weddïo arnat.

26. Yn awr, O ARGLWYDD, ti sydd Dduw, ac fe addewaist ti y daioni hwn i'th was.

27. Felly'n awr, gwêl yn dda fendithio tŷ dy was, fel y caiff barhau am byth yn dy ŵydd; am i ti, ARGLWYDD, ei fendithio, bendigedig fydd hyd byth.”

1 Cronicl 17