1 Cronicl 17:22-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

22. Gwnaethost dy bobl Israel i fod yn bobl i ti hyd byth; a daethost tithau, O ARGLWYDD, yn Dduw iddynt hwy.

23. Yn awr, O ARGLWYDD, bydded i'r addewid a wnaethost ynglŷn â'th was a'i deulu sefyll am byth, a gwna fel y dywedaist.

24. Bydded iddi sefyll fel y mawrheir dy enw hyd byth, ac y dywedir, ‘ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel, sydd Dduw ar Israel’; a bydd tŷ dy was Dafydd yn sicr ger dy fron.

25. Am i ti, O fy Nuw, ddatgelu i'th was y byddit yn adeiladu tŷ iddo, fe fentrodd dy was weddïo arnat.

1 Cronicl 17