19. O ARGLWYDD, er mwyn dy was, ac yn ôl dy ewyllys dy hun, y gwnaethost yr holl fawredd hwn a hysbysu'r holl fawrion bethau.
20. O ARGLWYDD, ni chlywodd ein clustiau am neb tebyg i ti, nac am un duw ar wahân i ti. Pa genedl arall ar y ddaear sydd fel dy bobl Israel?
21. Rhyddhaodd Duw hi i fod yn bobl iddo'i hun ac i ennill bri, a gwneud pethau mawr ac ofnadwy trwy fwrw allan genhedloedd o flaen dy bobl, y rhai a brynaist o'r Aifft.
22. Gwnaethost dy bobl Israel i fod yn bobl i ti hyd byth; a daethost tithau, O ARGLWYDD, yn Dduw iddynt hwy.
23. Yn awr, O ARGLWYDD, bydded i'r addewid a wnaethost ynglŷn â'th was a'i deulu sefyll am byth, a gwna fel y dywedaist.
24. Bydded iddi sefyll fel y mawrheir dy enw hyd byth, ac y dywedir, ‘ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel, sydd Dduw ar Israel’; a bydd tŷ dy was Dafydd yn sicr ger dy fron.
25. Am i ti, O fy Nuw, ddatgelu i'th was y byddit yn adeiladu tŷ iddo, fe fentrodd dy was weddïo arnat.
26. Yn awr, O ARGLWYDD, ti sydd Dduw, ac fe addewaist ti y daioni hwn i'th was.
27. Felly'n awr, gwêl yn dda fendithio tŷ dy was, fel y caiff barhau am byth yn dy ŵydd; am i ti, ARGLWYDD, ei fendithio, bendigedig fydd hyd byth.”