1 Cronicl 16:13-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. chwi ddisgynyddion Israel, ei was,chwi blant Jacob, ei etholedig.

14. Ef yw'r ARGLWYDD ein Duw,ac y mae ei farnedigaethau dros yr holl ddaear.

15. Cofiwch ei gyfamod dros byth,gair ei orchymyn hyd fil o genedlaethau,

16. sef y cyfamod a wnaeth ag Abraham,a'i lw i Isaac,

17. yr hyn a osododd yn ddeddf i Jacob,ac yn gyfamod tragwyddol i Israel,

18. a dweud, “I chwi y rhoddaf wlad Canaanyn gyfran eich etifeddiaeth.”

19. Pan oeddech yn fychan o rif,yn ychydig, ac yn grwydriaid yn y wlad,

20. yn crwydro o genedl i genedl,ac o un deyrnas at bobl eraill,

21. ni adawodd i neb eich darostwng,ond ceryddodd frenhinoedd o'ch achos,

22. a dweud, “Peidiwch â chyffwrdd â'm heneiniog,na gwneud niwed i'm proffwydi.”

1 Cronicl 16