1 Cronicl 16:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Daethant ag arch Duw a'i gosod yng nghanol y babell a gododd Dafydd iddi, ac aberthu poethoffrymau a heddoffrymau o flaen Duw.

2. Wedi iddo orffen aberthu'r poethoffrwm a'r heddoffrymau, bendithiodd Dafydd y bobl yn enw'r ARGLWYDD,

3. a rhannodd i bob un o'r Israeliaid, yn wŷr a gwragedd, dorth o fara, darn o gig a swp o rawnwin.

4. Penododd rai o'r Lefiaid i wasanaethu o flaen arch yr ARGLWYDD, i goffáu a moliannu a chlodfori ARGLWYDD Dduw Israel:

1 Cronicl 16