1 Cronicl 15:6-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. o feibion Merari, Asaia y pennaeth a dau gant ac ugain o'i frodyr;

7. o feibion Gersom, Joel y pennaeth a chant a thri deg o'i frodyr;

8. o feibion Elisaffan, Semaia y pennaeth a dau gant o'i frodyr;

9. o feibion Hebron, Eliel y pennaeth a phedwar ugain o'i frodyr;

10. o feibion Ussiel, Amminadab y pennaeth a chant a deuddeg o'i frodyr.

11. Yna galwodd Dafydd am Sadoc ac Abiathar yr offeiriaid, ac am y Lefiaid, Uriel, Asaia, Joel, Semaia, Eliel ac Amminadab,

12. a dywedodd wrthynt, “Chwi yw pennau-teuluoedd y Lefiaid. Sancteiddiwch eich hunain, chwi a'ch brodyr, i fynd ag arch ARGLWYDD Dduw Israel i'r lle a baratoais iddi.

1 Cronicl 15