1 Cronicl 15:2-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Yna dywedodd, “Nid oes neb i gario arch Duw ond y Lefiaid, oherwydd hwy a ddewiswyd gan yr ARGLWYDD i'w chario ac i'w wasanaethu ef am byth.”

3. Cynullodd Dafydd Israel gyfan i Jerwsalem, i ddod ag arch yr ARGLWYDD i fyny i'r lle yr oedd wedi ei baratoi iddi.

4. Casglodd feibion Aaron a'r Lefiaid:

5. o feibion Cohath, Uriel y pennaeth a chant ac ugain o'i frodyr;

6. o feibion Merari, Asaia y pennaeth a dau gant ac ugain o'i frodyr;

7. o feibion Gersom, Joel y pennaeth a chant a thri deg o'i frodyr;

8. o feibion Elisaffan, Semaia y pennaeth a dau gant o'i frodyr;

1 Cronicl 15