1 Cronicl 15:2-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Yna dywedodd, “Nid oes neb i gario arch Duw ond y Lefiaid, oherwydd hwy a ddewiswyd gan yr ARGLWYDD i'w chario ac i'w wasanaethu ef am byth.”

3. Cynullodd Dafydd Israel gyfan i Jerwsalem, i ddod ag arch yr ARGLWYDD i fyny i'r lle yr oedd wedi ei baratoi iddi.

4. Casglodd feibion Aaron a'r Lefiaid:

5. o feibion Cohath, Uriel y pennaeth a chant ac ugain o'i frodyr;

6. o feibion Merari, Asaia y pennaeth a dau gant ac ugain o'i frodyr;

7. o feibion Gersom, Joel y pennaeth a chant a thri deg o'i frodyr;

8. o feibion Elisaffan, Semaia y pennaeth a dau gant o'i frodyr;

9. o feibion Hebron, Eliel y pennaeth a phedwar ugain o'i frodyr;

10. o feibion Ussiel, Amminadab y pennaeth a chant a deuddeg o'i frodyr.

11. Yna galwodd Dafydd am Sadoc ac Abiathar yr offeiriaid, ac am y Lefiaid, Uriel, Asaia, Joel, Semaia, Eliel ac Amminadab,

12. a dywedodd wrthynt, “Chwi yw pennau-teuluoedd y Lefiaid. Sancteiddiwch eich hunain, chwi a'ch brodyr, i fynd ag arch ARGLWYDD Dduw Israel i'r lle a baratoais iddi.

13. Am nad oeddech chwi gyda ni y tro cyntaf, ac na fuom ninnau yn ymgynghori ag ef ynglŷn â'i drefn, fe dorrodd yr ARGLWYDD ein Duw allan i'n herbyn.”

14. Felly sancteiddiodd yr offeiriaid a'r Lefiaid eu hunain i ddod ag arch ARGLWYDD Dduw Israel i fyny.

15. Ac fe gludodd y Lefiaid arch Duw ar eu hysgwyddau â pholion, fel y gorchmynnodd Moses yn ôl gair yr ARGLWYDD.

1 Cronicl 15