1 Cronicl 15:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Adeiladodd Dafydd dai iddo'i hun yn Ninas Dafydd, a pharatoi lle i arch Duw a gosod pabell iddi.

2. Yna dywedodd, “Nid oes neb i gario arch Duw ond y Lefiaid, oherwydd hwy a ddewiswyd gan yr ARGLWYDD i'w chario ac i'w wasanaethu ef am byth.”

3. Cynullodd Dafydd Israel gyfan i Jerwsalem, i ddod ag arch yr ARGLWYDD i fyny i'r lle yr oedd wedi ei baratoi iddi.

1 Cronicl 15