1 Cronicl 14:6-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Noga, Neffeg, Jaffia,

7. Elisama, Beeliada ac Eliffelet.

8. Pan glywodd y Philistiaid fod Dafydd wedi ei eneinio'n frenin ar Israel gyfan, aethant oll i chwilio amdano, ond clywodd ef am hyn ac aeth allan i'w herbyn.

9. Wedi i'r Philistiaid ddod ac ymledu dros ddyffryn Reffaim,

10. gofynnodd Dafydd i Dduw, “A af i fyny yn erbyn y Philistiaid? A roi di hwy yn fy llaw?” Atebodd yr ARGLWYDD, “Dos i fyny, oherwydd yn sicr fe rof y Philistiaid yn dy law.”

11. Felly pan aethant i fyny i Baal-perasim, fe drawodd Dafydd hwy yno, a dweud, “Fel toriad dyfroedd, fe dorrodd Duw drwy fy ngelynion â'm llaw i.” Dyma pam y galwyd y lle hwnnw, Baal-perasim.

1 Cronicl 14