1 Cronicl 14:3-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Cymerodd Dafydd ychwaneg o wragedd yn Jerwsalem a chenhedlu rhagor o feibion a merched.

4. Dyma enwau'r plant a gafodd yn Jerwsalem: Sammua, Sobab, Nathan, Solomon,

5. Ibhar, Elisua, Elpalet,

6. Noga, Neffeg, Jaffia,

7. Elisama, Beeliada ac Eliffelet.

8. Pan glywodd y Philistiaid fod Dafydd wedi ei eneinio'n frenin ar Israel gyfan, aethant oll i chwilio amdano, ond clywodd ef am hyn ac aeth allan i'w herbyn.

9. Wedi i'r Philistiaid ddod ac ymledu dros ddyffryn Reffaim,

10. gofynnodd Dafydd i Dduw, “A af i fyny yn erbyn y Philistiaid? A roi di hwy yn fy llaw?” Atebodd yr ARGLWYDD, “Dos i fyny, oherwydd yn sicr fe rof y Philistiaid yn dy law.”

1 Cronicl 14