1 Cronicl 14:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Anfonodd Hiram brenin Tyrus negeswyr at Ddafydd, a hefyd goed cedrwydd, seiri maen a seiri coed i adeiladu tŷ iddo.

2. Sylweddolodd Dafydd fod yr ARGLWYDD wedi ei gadarnhau yn frenin ar Israel, a bod ei frenhiniaeth wedi ei dyrchafu'n uchel er mwyn ei bobl Israel.

3. Cymerodd Dafydd ychwaneg o wragedd yn Jerwsalem a chenhedlu rhagor o feibion a merched.

4. Dyma enwau'r plant a gafodd yn Jerwsalem: Sammua, Sobab, Nathan, Solomon,

5. Ibhar, Elisua, Elpalet,

6. Noga, Neffeg, Jaffia,

7. Elisama, Beeliada ac Eliffelet.

8. Pan glywodd y Philistiaid fod Dafydd wedi ei eneinio'n frenin ar Israel gyfan, aethant oll i chwilio amdano, ond clywodd ef am hyn ac aeth allan i'w herbyn.

9. Wedi i'r Philistiaid ddod ac ymledu dros ddyffryn Reffaim,

1 Cronicl 14