1 Cronicl 14:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Anfonodd Hiram brenin Tyrus negeswyr at Ddafydd, a hefyd goed cedrwydd, seiri maen a seiri coed i adeiladu tŷ iddo.

2. Sylweddolodd Dafydd fod yr ARGLWYDD wedi ei gadarnhau yn frenin ar Israel, a bod ei frenhiniaeth wedi ei dyrchafu'n uchel er mwyn ei bobl Israel.

3. Cymerodd Dafydd ychwaneg o wragedd yn Jerwsalem a chenhedlu rhagor o feibion a merched.

1 Cronicl 14