1 Cronicl 13:6-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Ac aeth Dafydd a holl Israel i Baala yn Jwda, sef Ciriath-jearim, i gyrchu oddi yno arch Duw, a enwir ar ôl yr ARGLWYDD sydd â'i orsedd ar y cerwbiaid.

7. Daethant ag arch Duw ar fen newydd o dŷ Abinadab, ac Ussa ac Ahïo oedd yn tywys y fen.

8. Yr oedd Dafydd a holl Israel yn gorfoleddu o flaen Duw â'u holl ynni, dan ganu gyda thelynau, nablau, tympanau, symbalau a thrwmpedau.

9. Pan ddaethant at lawr dyrnu Cidon, estynnodd Ussa ei law i afael yn yr arch am fod yr ychen yn ei hysgwyd.

10. Enynnodd dicter yr ARGLWYDD yn erbyn Ussa, ac fe'i trawodd am iddo estyn ei law at yr arch; a bu farw yno gerbron Duw.

11. Cynhyrfodd Dafydd am fod llid yr ARGLWYDD wedi torri allan yn erbyn Ussa, a galwodd y lle hwnnw yn Peres Ussa; a dyna'i enw hyd y dydd hwn.

12. Yr oedd ofn Duw ar Ddafydd y diwrnod hwnnw a dywedodd, “Sut y dof ag arch Duw i mewn ataf?”

1 Cronicl 13