5. Felly casglodd Dafydd Israel gyfan o Sihor yn yr Aifft hyd at Lebo-hamath, i ddod ag arch Duw o Ciriath-jearim.
6. Ac aeth Dafydd a holl Israel i Baala yn Jwda, sef Ciriath-jearim, i gyrchu oddi yno arch Duw, a enwir ar ôl yr ARGLWYDD sydd â'i orsedd ar y cerwbiaid.
7. Daethant ag arch Duw ar fen newydd o dŷ Abinadab, ac Ussa ac Ahïo oedd yn tywys y fen.
8. Yr oedd Dafydd a holl Israel yn gorfoleddu o flaen Duw â'u holl ynni, dan ganu gyda thelynau, nablau, tympanau, symbalau a thrwmpedau.
9. Pan ddaethant at lawr dyrnu Cidon, estynnodd Ussa ei law i afael yn yr arch am fod yr ychen yn ei hysgwyd.
10. Enynnodd dicter yr ARGLWYDD yn erbyn Ussa, ac fe'i trawodd am iddo estyn ei law at yr arch; a bu farw yno gerbron Duw.
11. Cynhyrfodd Dafydd am fod llid yr ARGLWYDD wedi torri allan yn erbyn Ussa, a galwodd y lle hwnnw yn Peres Ussa; a dyna'i enw hyd y dydd hwn.
12. Yr oedd ofn Duw ar Ddafydd y diwrnod hwnnw a dywedodd, “Sut y dof ag arch Duw i mewn ataf?”
13. Felly ni ddaeth Dafydd â'r arch i Ddinas Dafydd, ond fe'i rhoddodd yn nhŷ Obed-edom o Gath.
14. Bu arch Duw yn nhŷ Obed-edom a'i deulu am dri mis. A bendithiodd yr ARGLWYDD dŷ Obed-edom a'i holl eiddo.