1 Cronicl 12:31-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

31. o hanner llwyth Manasse, deunaw mil o wŷr a etholwyd i ddod a gwneud Dafydd yn frenin;

32. o feibion Issachar, y rhai oedd yn deall arwyddion yr amseroedd i wybod beth ddylai Israel ei wneud, dau gant o benaethiaid a oedd yn rheoli eu holl frodyr;

33. o Sabulon, hanner can mil o ddynion arfog, profiadol mewn rhyfel a pharod eu cymorth;

34. o Nafftali, mil o dywysogion, a chyda hwy, yn cario tarian a gwaywffon, dwy fil ar bymtheg ar hugain;

1 Cronicl 12