1 Cronicl 12:28-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

28. a Sadoc, llanc dewr, gyda dau ar hugain o gapteiniaid o dŷ ei dad;

29. o feibion Benjamin, brodyr Saul, tair mil a oedd hyd yr amser hwnnw yng ngwasanaeth tŷ Saul;

30. o feibion Effraim, ugain mil wyth gant o wŷr nerthol, dynion oedd yn enwog yn eu teuluoedd;

31. o hanner llwyth Manasse, deunaw mil o wŷr a etholwyd i ddod a gwneud Dafydd yn frenin;

32. o feibion Issachar, y rhai oedd yn deall arwyddion yr amseroedd i wybod beth ddylai Israel ei wneud, dau gant o benaethiaid a oedd yn rheoli eu holl frodyr;

33. o Sabulon, hanner can mil o ddynion arfog, profiadol mewn rhyfel a pharod eu cymorth;

1 Cronicl 12