1 Cronicl 12:26-40 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

26. o feibion Lefi, pedair mil chwe chant,

27. yn ogystal â Jehoiada arweinydd yr Aaroniaid gyda thair mil saith gant,

28. a Sadoc, llanc dewr, gyda dau ar hugain o gapteiniaid o dŷ ei dad;

29. o feibion Benjamin, brodyr Saul, tair mil a oedd hyd yr amser hwnnw yng ngwasanaeth tŷ Saul;

30. o feibion Effraim, ugain mil wyth gant o wŷr nerthol, dynion oedd yn enwog yn eu teuluoedd;

31. o hanner llwyth Manasse, deunaw mil o wŷr a etholwyd i ddod a gwneud Dafydd yn frenin;

32. o feibion Issachar, y rhai oedd yn deall arwyddion yr amseroedd i wybod beth ddylai Israel ei wneud, dau gant o benaethiaid a oedd yn rheoli eu holl frodyr;

33. o Sabulon, hanner can mil o ddynion arfog, profiadol mewn rhyfel a pharod eu cymorth;

34. o Nafftali, mil o dywysogion, a chyda hwy, yn cario tarian a gwaywffon, dwy fil ar bymtheg ar hugain;

35. o'r Daniaid, wyth mil ar hugain chwe chant yn barod i ryfel;

36. o Aser, deugain mil o filwyr yn barod i fynd allan i ryfela;

37. o'r tu hwnt i'r Iorddonen, o'r Reubeniaid a'r Gadiaid a hanner llwyth Manasse, daeth chwech ugain mil gyda phob math o arfau cymwys i ryfel.

38. Yr oedd y rhain i gyd yn filwyr parod eu cymorth, a daethant i Hebron yn unfryd i wneud Dafydd yn frenin ar holl Israel. Yr oedd pawb arall yn Israel hefyd yn unfryd o blaid gwneud Dafydd yn frenin.

39. Buont yno gyda Dafydd am dridiau yn bwyta ac yn yfed, oherwydd yr oedd eu brodyr wedi paratoi ar eu cyfer.

40. Yr oedd eu cymdogion hefyd, o gyn belled ag Issachar, Sabulon a Nafftali, wedi dod â bwyd ar asynnod, camelod, mulod ac ychen. Daethant â blawd, teisennau ffigys, grawnwin, gwin, olew, a llawer o wartheg a defaid, oherwydd yr oedd llawenydd yn Israel.

1 Cronicl 12