1 Cronicl 12:24-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. o feibion Jwda a gludai darian a gwaywffon, chwe mil wyth gant yn y lluoedd arfog;

25. o feibion Simeon, dynion nerthol i ryfel, saith mil un cant;

26. o feibion Lefi, pedair mil chwe chant,

27. yn ogystal â Jehoiada arweinydd yr Aaroniaid gyda thair mil saith gant,

28. a Sadoc, llanc dewr, gyda dau ar hugain o gapteiniaid o dŷ ei dad;

1 Cronicl 12