1 Cronicl 12:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dyma'r rhai a ddaeth i Siclag at Ddafydd tra oedd yn ymguddio rhag Saul fab Cis. Yr oeddent yn wŷr cedyrn, ac yn ddefnyddiol mewn brwydr

2. am eu bod yn cario bwâu ac yn gallu taflu cerrig a saethu â'r bwa â'u llaw dde a'u llaw chwith. Benjaminiaid oeddent, o dylwyth Saul.

3. Ahieser a Joas meibion Semaa o Gibea oedd yr arweinwyr; Jesiwl a Phelet meibion Asmafeth; Beracha, a Jehu o Anathoth;

4. Ismaia o Gibeon, y grymusaf o'r Deg ar Hugain ac yn bennaeth arnynt; Jeremeia, Jehasiel, Johanan a Josabad o Gedera,

5. Elusai, Jerimoth, Bealeia, Semareia, Seffatia yr Haruffiad,

6. Elcana, Jeseia, Asareel, Joeser a Jasobeam y Corahiaid,

1 Cronicl 12