1. Dyma'r rhai a ddaeth i Siclag at Ddafydd tra oedd yn ymguddio rhag Saul fab Cis. Yr oeddent yn wŷr cedyrn, ac yn ddefnyddiol mewn brwydr
2. am eu bod yn cario bwâu ac yn gallu taflu cerrig a saethu â'r bwa â'u llaw dde a'u llaw chwith. Benjaminiaid oeddent, o dylwyth Saul.
3. Ahieser a Joas meibion Semaa o Gibea oedd yr arweinwyr; Jesiwl a Phelet meibion Asmafeth; Beracha, a Jehu o Anathoth;
4. Ismaia o Gibeon, y grymusaf o'r Deg ar Hugain ac yn bennaeth arnynt; Jeremeia, Jehasiel, Johanan a Josabad o Gedera,
5. Elusai, Jerimoth, Bealeia, Semareia, Seffatia yr Haruffiad,
6. Elcana, Jeseia, Asareel, Joeser a Jasobeam y Corahiaid,
7. Joela a Sebadeia, meibion Jehoram o Gedor.
8. Aeth rhai o'r Gadiaid at Ddafydd i'r gaer yn yr anialwch. Gwŷr nerthol oeddent, milwyr profiadol mewn brwydr, yn fedrus â tharian a gwaywffon, yn edrych fel llewod ac mor gyflym â gafrewigod ar y mynyddoedd.
9. Y cyntaf oedd Eser, yr ail Obadeia, y trydydd Eliab,
10. y pedwerydd Mismanna, y pumed Jeremeia,
11. y chweched Attai, y seithfed Eliel,
12. yr wythfed Johanan, y nawfed Elsabad,
13. y degfed Jeremeia a'r unfed ar ddeg Machbanai.
14. Gadiaid oedd y rhain, a phenaethiaid y fyddin; yr oedd cant o ddynion dan y lleiaf ohonynt a mil dan y pwysicaf.
15. Dyma'r rhai a groesodd yr Iorddonen yn y mis cyntaf, pan oedd yr afon wedi gorlifo'i glannau, gan yrru ar ffo bawb oedd yn byw yn y dyffrynnoedd i'r dwyrain a'r gorllewin.
16. Daeth rhai o wŷr Benjamin a Jwda i'r gaer at Ddafydd,
17. ac aeth yntau allan atynt a dweud, “Os daethoch ataf mewn heddwch i'm cynorthwyo, yr wyf yn barod i ymuno â chwi. Ond os daethoch i'm bradychu i'm gelynion, a minnau'n ddieuog, bydded i Dduw ein tadau sylwi a chosbi.”
18. Yna meddiannwyd Amasai, pennaeth y Deg ar Hugain, gan yr ysbryd, ac meddai:“Yr ydym ni gyda thi, Ddafydd!Yr ydym o'th blaid, fab Jesse!Llwydd, llwydd fo i ti,a llwydd i'th gynorthwywr!Oherwydd dy Dduw yw dy gymorth.”Felly croesawodd Dafydd hwy a'u gwneud yn benaethiaid ar finteioedd.
19. Ciliodd rhai o wŷr Manasse at Ddafydd pan ddaeth ef gyda'r Philistiaid i ymladd yn erbyn Saul. Ond ni chynorthwyodd ef y Philistiaid am i'w tywysogion, wedi ymgynghori â'i gilydd, ei yrru i ffwrdd gan ddweud, “Pe bai'n dychwelyd at ei feistr Saul fe gaem ein lladd.”