45. Bu farw Jobab, a theyrnasodd Husam o wlad y Temaniaid yn ei le.
46. Bu farw Husam, a theyrnasodd Hadad fab Bedad yn ei le; ymosododd ef ar Midian yng ngwlad Moab, ac Afith oedd enw ei ddinas.
47. Bu farw Hadad, a theyrnasodd Samla o Masreca yn ei le.
48. Bu farw Samla, a theyrnasodd Saul o Rehoboth-ger-Ewffrates yn ei le.
49. Bu farw Saul, a theyrnasodd Baal-hanan fab Achbor yn ei le.