1 Cronicl 1:42-47 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

42. Meibion Eser: Bilhan, Safan, Jacan. Meibion Dison: Us ac Aran.

43. Dyma'r brenhinoedd a fu'n teyrnasu yng ngwlad Edom cyn i'r Israeliaid gael brenin: Bela fab Beor; enw ei ddinas ef oedd Dinhaba.

44. Bu farw Bela, a theyrnasodd Jobab fab Sera o Bosra yn ei le.

45. Bu farw Jobab, a theyrnasodd Husam o wlad y Temaniaid yn ei le.

46. Bu farw Husam, a theyrnasodd Hadad fab Bedad yn ei le; ymosododd ef ar Midian yng ngwlad Moab, ac Afith oedd enw ei ddinas.

47. Bu farw Hadad, a theyrnasodd Samla o Masreca yn ei le.

1 Cronicl 1