1 Cronicl 1:30-45 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

30. Misma, Duma, Massa, Hadad, Tema,

31. Jetur, Naffis, Cedema. Dyma feibion Ismael.

32. Yr oedd Cetura, gordderchwraig Abraham, yn fam i Simran, Jocsan, Medan, Midian, Ibac, Sua. Meibion Jocsan: Seba a Dedan.

33. Meibion Midian: Effa, Effer, Enoch, Abida, Eldaa; yr oedd y rhain i gyd yn blant Cetura.

34. Abraham oedd tad Isaac. Meibion Isaac: Esau ac Israel.

35. Meibion Esau: Eliffas, Reuel, Jeus, Jalam, Cora.

36. Meibion Eliffas: Teman, Omar, Seffi, Gatam, Cenas, Timna, Amalec.

37. Meibion Reuel: Nahath, Sera, Samma, Missa.

38. Meibion Seir: Lotan, Sobal, Sibeon, Ana, Dison, Eser, Disan.

39. Meibion Lotan: Hori, Homam; a chwaer Lotan oedd Timna.

40. Meibion Sobal: Alïan, Manahath, Ebal, Seffi, Onam. Meibion Sibeon: Aia ac Ana.

41. Mab Ana: Dison. Meibion Dison: Amram, Esban, Ithran, Ceran.

42. Meibion Eser: Bilhan, Safan, Jacan. Meibion Dison: Us ac Aran.

43. Dyma'r brenhinoedd a fu'n teyrnasu yng ngwlad Edom cyn i'r Israeliaid gael brenin: Bela fab Beor; enw ei ddinas ef oedd Dinhaba.

44. Bu farw Bela, a theyrnasodd Jobab fab Sera o Bosra yn ei le.

45. Bu farw Jobab, a theyrnasodd Husam o wlad y Temaniaid yn ei le.

1 Cronicl 1