1 Corinthiaid 9:15-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Ond nid wyf fi wedi manteisio ar ddim o'r hawliau hyn. Ac nid er mwyn cael dim o'r fath i mi fy hun yr wyf yn ysgrifennu hyn. Byddai'n well gennyf farw na hynny. Ni chaiff neb droi fy ymffrost yn wagedd.

16. Oherwydd os wyf yn pregethu'r Efengyl, nid yw hynny'n achos ymffrost i mi, gan fod rheidrwydd wedi ei osod arnaf. Gwae fi os na phregethaf yr Efengyl!

17. Os o'm gwirfodd yr wyf yn gwneud hyn, y mae imi dâl; ond os o'm hanfodd, yr wyf yn gwneud gorchwyl sydd wedi ei ymddiried imi.

18. Beth, felly, yw fy nhâl? Hyn ydyw: fy mod, wrth bregethu'r Efengyl, yn ei chyflwyno am ddim, heb fanteisio o gwbl ar fy hawl yn yr Efengyl.

1 Corinthiaid 9