1 Corinthiaid 8:10-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Oherwydd os bydd i rywun dy weld di, sy'n meddu ar “wybodaeth”, yn bwyta mewn teml eilunod, oni chadarnheir ei gydwybod, ac yntau'n wan, i fwyta pethau wedi eu haberthu i eilunod?

11. Felly, trwy dy “wybodaeth” di, fe ddinistrir yr un gwan, dy gydgredadun y bu Crist farw drosto.

12. Wrth bechu fel hyn yn erbyn eich cydgredinwyr, a chlwyfo'u cydwybod, a hithau'n wan, yr ydych yn pechu yn erbyn Crist.

13. Am hynny, os yw bwyd yn achos cwymp i'm cydgredadun, ni fwytâf fi gig byth, rhag i mi achosi cwymp i'm cydgredadun.

1 Corinthiaid 8