1 Corinthiaid 7:17-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Beth bynnag am hynny, dalied pob un i fyw yn ôl y gyfran a gafodd gan yr Arglwydd, pob un yn ôl yr alwad a gafodd gan Dduw. Yr wyf yn gwneud hyn yn rheol yn yr holl eglwysi.

18. A gafodd rhywun ei alw ac yntau'n enwaededig? Peidied â chuddio'i gyflwr. A gafodd rhywun ei alw ac yntau'n ddienwaededig? Peidied â cheisio enwaediad.

19. Nid enwaediad sy'n cyfrif, ac nid dienwaediad sy'n cyfrif, ond cadw gorchmynion Duw.

20. Dylai pob un aros yn y cyflwr yr oedd ynddo pan gafodd ei alw.

21. Ai caethwas oeddit pan gefaist dy alw? Paid â phoeni; ond os gelli ennill dy ryddid, cymer dy gyfle, yn hytrach na pheidio.

22. Oherwydd y sawl oedd yn gaeth pan alwyd ef i fod yn yr Arglwydd, un rhydd yr Arglwydd ydyw. Yr un modd, y sawl oedd yn rhydd pan alwyd ef, un caeth i Grist ydyw.

1 Corinthiaid 7