1 Corinthiaid 6:4-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Felly, os bydd gennych achosion fel hyn, a ydych yn gosod yn farnwyr y rhai sydd isaf eu parch yng ngolwg yr eglwys?

5. I godi cywilydd arnoch yr wyf yn dweud hyn. A yw wedi dod i hyn, nad oes neb doeth yn eich plith fydd yn gallu barnu rhwng cydgredinwyr?

6. A yw credinwyr yn mynd i gyfraith â'i gilydd, a hynny gerbron anghredinwyr?

7. Yn gymaint â'ch bod yn ymgyfreithio o gwbl â'ch gilydd, yr ydych eisoes, yn wir, wedi colli'r dydd. Pam, yn hytrach, na oddefwch gam? Pam, yn hytrach, na oddefwch golled?

1 Corinthiaid 6